SL(6)291 – Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.
Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud y canlynol:
· mynd i’r afael â diffygion a nodwyd yn neddfwriaeth ddomestig Cymru sy’n ymwneud â hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Yn benodol, dileu croesgyfeiriadau at Gyfarwyddebau’r UE, a throsi Atodiadau penodol i’r Cyfarwyddebau hynny yn ddeddfwriaeth ddomestig.
· cywiro cyfeiriadau o fewn deddfwriaeth ddomestig Cymru sy’n diffinio awdurdodau gorfodi mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.
Gweithdrefn
Cadarnhaol.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) –ei bod yn ymddangos bod y drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn y rhaglith ar dudalen 5, cyfeirir yn anghywir at Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 fel Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2020 [pwyslais wedi'i ychwanegu].
2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) –ei bod yn ymddangos bod y drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae Rheoliad
2(4)(b) yn diwygio rheoliad 12(2) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau
mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012.
Cyn ei ddiwygio, roedd y geiriad perthnasol yn y ddarpariaeth fel a
ganlyn:
“…sylweddau a restrir yn y rhan gyntaf o Atodiad II ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn y rhan honno.” [ychwanegwyd y pwyslais]
Yn dilyn y
diwygiad mae’r ddarpariaeth yn darllen:
“…sylweddau a restrir yn nhabl 1 o Atodlen 6
ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a nodir yn y
rhan honno.” [ychwanegwyd y
pwyslais]
O ystyried bod y tabl yn Atodlen 6 heb ei rannu'n rhannau (yn
hytrach nag Atodiad II, sydd wedi’i rannu), dylid rhoi'r gair
“tabl” yn lle'r cyfeiriad at “rhan” a
adawyd yn rheoliad 2(4)(b).
3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.
Yn rheoliad 3(2)(a)(ii), yn y testun Cymraeg, cynhwyswyd y diffiniad Saesneg cyfatebol mewn cromfachau ac italig o’r diffiniad presennol o “Rheoliadau'r UE”.
Nid yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 3(2)(a)(ii), fodd bynnag, yn diwygio’r diffiniad Saesneg sy’n ymddangos mewn cromfachau ac italig ar ôl y diffiniad diwygiedig yn y testun Cymraeg. O ganlyniad, bydd y diffiniad Cymraeg diwygiedig newydd yn dal i gynnwys y diffiniad Saesneg gwreiddiol mewn cromfachau ar ei ôl (“Rheoliadau'r UE”) yn hytrach na’r diffiniad Saesneg newydd (“Rheoliadau’r UE a ddargedwir”). Bydd hyn yn drysu yn hytrach na chynorthwyo’r darllenydd, drwy gysylltu’r diffiniad Cymraeg newydd â’r hen ddiffiniad Saesneg.
4. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.
Yn rheoliad
3(8), yn y testun Cymraeg, mae’r disgrifiad o’r
diwygiad yn methu â nodi’n union ble i fewnosod y
testun newydd - mae’n nodi y dylid mewnosod y testun newydd
ar ôl “Rheoliadau'r UE”
[ychwanegwyd pwyslais] yn rheoliad
19(2) o Reoliadau 2013.
Fodd bynnag, dylai’r testun ddweud
“Reoliadau'r UE”
[ychwanegwyd pwyslais] gan bod y geiriau yn ymddangos
mewn ffurf dreigledig ym mharagraff (2) o reoliad 19. Nid
yw’r geiriau “Rheoliadau'r UE” (heb eu
treiglo) yn ymddangos yn unrhyw le yn rheoliad 19(2) o Reoliadau
2013.
5. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.
Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1 yn yr Atodlen 1B newydd, yn y testun Cymraeg, mae “feed materials” wedi ei gamgyfieithu fel “deunyddiau blawd” [ychwanegwyd pwyslais] sy'n golygu bod "deunyddiau blawd” yn ymddangos ym mhob man o ran y geiriau sy'n cyfateb i “flawd gwymon a deunyddiau blawd sy'n deillio o wymon” yn yr ail golofn ar gyfer cofnod rhif. 1, Arsenig.
Y cyfieithiad cywir ar gyfer “feed materials” yw “deunyddiau bwyd anifeiliaid” [ychwanegwyd pwyslais] fel y ceir mewn man arall yn y Tabl hwnnw, ac yn y rheoliad 15(7)(c) presennol o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr 2022 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.